Taith Gerdded Ecolegol ar Lan y Môr

Dydd Sul 19 Medi 2pm

Dysgwch am fywyd gwyllt cyfoethog a chynefinoedd pwysig Afon Menai. Bydd y daith yn ein harwain ar hyd y glannau ac at dwr bas, felly dewch â’ch welingtons a dillad dal dwr!

Cyfarfod ym Moelyci am 1.30pm i’r funud i rannu cludiant, neu ym maes parcio Coed Cyrnol am 2pm.

Gyda Gabrielle Wyn, Swyddog Morol CCGC. Digwyddiad rhad ac am ddim ond croesawir rhoddion. Dim angen cadw lle – dewch draw!

 

Recent Entries

  • Documents / Dogfennau