Diwrnod Bio-amrywiaeth Mynydd Llandygai

Dydd Sadwrn 4ydd Medi  2-6 y pnawn   Neuadd Goffa

Diwrnod i ddathlu bywyd gwyllt ym Mynydd Llandygai a’r cyffiniau

Mae’r digwyddiad yn cynnwys:

  • Cyfle i siarad efo Dr.Rachel Taylor am y prosiect bwydo adar gardd
  • Gwnewch flwch adar fel y gallwch ymuno â’r prosiect y flwyddyn nesaf
  • Drofeydd ym Mharc yr Ocar i gofnodi argraffiadau a syniadau am y coedwigoedd
  • Cyfle i gynnig syniadau am gynllun rheoli Parc yr Ocar
  • Cyfle i weld pa fath o fywyd gwyllt y cafwyd yn y pentref yn ystod prosiect bioamrywiaeth y llynedd
  • Dewch i wybod mwy am be fu’n digwydd ym Moelyci
  • Dewch i gael cyngor ar arddio bywyd gwyllt

Te a chacennau

 

Recent Entries

  • Documents / Dogfennau