Cartref

Mae trigolion yr ardal wedi hir fwynhau y gronfa â’r coed o amgylch Afon Galedffrwd â’r coed i’r dwyrain o Mynydd Llandegai. Yn ddiweddar mae trigolion Mynydd Llandegai â’r cyffiniau wedi sefydlu cwmni elusennol yn 2003 o’r enw Coetir Mynydd. Mae’r cwmni wedi derbyn perchnogaeth o coetir Parc yr Ynys a Llyn Coed y Parc oddi wrth Stâd Penrhyn yn Ebrill 2004.

Yn ystod 2005-6, canolbwyntiwyd ar y gwaith graddol o ail-adeiladu’r waliau cerrig sy’n ffinio’r coetir, a hynny drwy gyfrwng grant gan y Comisiwn Coedwigaeth drwy’r prosiect CydCoed.

Ar 3 Medi, 2006, ‘roeddem yn falch iawn o dderbyn Gwobr Cymru Wledig gan YDCW, sef Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig, am ein gwaith yn rheoli’r coetiroedd hyn.  Ceir mwy o fanylion ynghyd â lluniau yn Adroddiad Blynyddol 2006 (Dogfennau).

  • Documents / Dogfennau

  • WordPress › Error

    There has been a critical error on this website.

    Learn more about troubleshooting WordPress.