|
Mae gan y coetir gymeriad naturiol ac mae distawrwydd arbennig yno, felly rhan or her ir grwp yw cadw y rhinweddau yma gan atgyweirior llwybrau, waliau âr ffensys. Rydym yn ffodus i gael gymaint o brofiad cadwriaethol a thrigolion synhwyrol o fewn ein haelodau i ymateb yr her.
Maen ddelfrydol fod coedwigoedd a ardaloedd gwarchod gyda chynllun o sut i reoli. Dogfennau ywr rhain gyda cynllun gweithredu i wneud yn siwr bod yr amcanion yn cael eu cyflawni. I goedwigoedd sydd dan reolaeth grwp, mae cynllun yn ddefnyddiol i brisio gweithgareddau er mwyn cwblhau ceisiadau ariannu a chynllunio gwaith gwirfoddol.
Prawf cynllun rheolaeth y Comisiwn Coedwigaeth
Dr. Evelyn Over, Asiant Coedwigaeth, Castell Caerenion
Maer Comisiwn Coedwigaeth yn cyfrannu i reolaeth coedwigoedd trwy ddefnyddio Cynllun Grant Coetir, sydd yn rhoi cymorth ariannol i bethau fel ffensio coedwigoedd derw uwchdir a rheolaeth egino naturiol. Mae nifer o broblemau gydar cynllun presennol ac yn 2005 maer Comisiwn yn bwriadu newid y broses i system rheolaeth newydd er mwyn hybu rheolaeth coetir gynnaladwy hir dymor.
Ym Mehefin 2003, fe ofynnodd y Comisiwn eu hasiantau i chwilio am goedwigoedd yng Nghymru i brofi y system cynllun rheolaeth newydd. Ar ôl ymgynghori gyd Cynghorwyr Coetir Mynydd fe enwebwyd Parc yr Ynys ir prawf yma. Fe enwebwyd dros 100 o goedwigoedd a fe ddewiswyd 21, roedd y rhain yn cynnwys stadau mawr i goedwigoedd rhan-naturiol hynafol yn Nyffryn Gwy. Parc yr Ynys oedd un or coedwigoedd a dderbyniwyd.
Fe allwch lawr lwythor adroddiad scopio yma
|