|
DIGWYDDIADAU 2006
|
|
|
|
Mainc uchaf, Parc yr Ynys
|
|
Hysbysfwrdd, Parc yr Ocar
|
Ar 3 Medi, 2006, 'roeddem yn falch iawn o dderbyn Gwobr Cymru Wledig gan YDCW, sef Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig, am ein gwaith yn rheoli'r coetiroedd hyn. Ar y diwrnod hwnnw, cerddodd nifer o aelodau YDCW drwy'r coetiroedd gan ymuno â ni wedyn am de yn Y Neuadd Goffa, Mynydd Llandygái. Ceir mwy o fanylion ynghyd â lluniau ar y dudalen Newyddion ac yn Adroddiad Blynyddol 2006, y gellir cysylltu iddynt o'r dudalen Dogfennau.
Mae Mike Bithell wedi cwblhau'r fainc ym mhen uchaf Parc yr Ynys - gweler uchod. Mae mân waith arall, ond pwysig serch hynny, sydd wedi gwella'r teithiau cerdded drwy'r coetiroedd yn cynnwys stepiau Mike ar y llwybr, y gwaith ffensio ger y bont o'r Ocar, y giât uchaf a'r Hysbysfyrddau pren coeth, a grëwyd gan Peter Boyd ar gyfer y tair prif fynedfa i'r coetir. Mae'r ddau Hysbysfwrdd uchaf wedi bod yn eu lle ers peth amser a bwriedir gosod yr Hysbysfwrdd isaf unwaith y bydd y gwaith o adeiladu'r waliau cerrig wedi'i gwblhau. Eto, am ragor o wybodaeth, ewch i'r Adroddiadau Blynyddol, y gellir cysylltu iddynt o'r dudalen Dogfennau.
|
|
|
|
Ngwyl Haf Antur Mynydd
|
|
Gat ar ben o Parc yr Ynys
|
Yn 2005 'roedd yna gryn siomedigaeth ar y cyfan pan fu'n rhaid rhoi'r gorau i'r bwriad i brynu'r llain gysgodi a adwaenir fel Parc Tan y Bwlch oherwydd bod Ystâd y Penrhyn wedi ei gosod ar rent yn hytrach na chytuno i ni ei phrynu - 'roeddem wedi llwyddo i gael cyllid i wneud hynny gan CydCoed. Fodd bynnag, aeth gwaith arall yn ei flaen, gan gynnwys y giat ar ben uchaf Parc yr Ynys a chychwynnwyd hefyd ar y prosiect sylweddol o ail-adeiladu'r waliau cerrig.
Noddwyd Coed Call gan Coetir Mynydd er mwyn darparu gweithgareddau seiliedig ar goetiroedd ar gyfer plant yng Ngwyl Haf Antur Mynydd. Darparwyd cyllid ar gyfer y digwyddiad hwn gan: Academi, Tir Coed a Choetir Mynydd. Cynhaliwyd y digwyddiad ym mhabell groen y Comisiwn Coedwigaeth a fenthycwyd i ni drwy garedigrwydd swyddfa ardal Llanrwst.
DIGWYDDIADAU 2004
|
|
|
|
Ysgol Bodfeurig
|
|
Melin llifio symudol ym Mharc y Bwlch
|
Cwblhawyd trosglwyddiad perchnogaeth argae Coed y Parc, Parc yr Ocar isaf a Pharc yr Ynys ar Ebrill 28ain, 2004.
Gellir llwytho Cylchlythyr 1, Chylchlythyr 2, Chylchlythyr 3 i lawr mewn ffurf PDF
Maer dyddiau cyntaf or menter coedwigaeth mewn ysgolion, a gychwynnodd ar Fehefin 29, 2004, wedi bod yn llwyddiant.
Gweler y tudalen Dogfennau am fwy o wybodaeth.
Cynhaliwyd Noson Wyfynnod wediw arwain gan John Harold ym Mharc yr Ynys ar Ddydd Mercher, Gorffennaf 28, 2004.
Gorffennaf 31, 2004, oedd y Diwrnod Gwirfoddolwyr cyntaf ar gyfer Cynhaliaeth yr Argae, ac mae ail Ddiwrnod Gwirfoddolwyr i reoli Planhigion Egsotig yn y goedwig wedi ei drefnu ar gyfer DYDD SADWRN AWST 21.
Gweler tudalennaur Dogfennau ac Argae ar gyfer gwybodaeth pellach.
Mae ymweliad i weld y cerflunydd pren David Nash, syn adnabyddus yn rhyngwladol, wedi ei drefnu ar gyfer DYDD SADWRN, MEDI 25, 2004.
|