pine trees logo

Coetir Mynydd
grwp cymuned
ol coetiroedd

English
Cartref
Newyddion
Dogfennau
Argae
Coetir
Bioamrywiaeth
Hanes
Mapiau
Cyfarwyddwyr
Ariannu
Cysylltiadau

 

 

 

Gwaith Mur Cerrig Newydd
YDCW/CPRW cerdded amgyll
Gwaith Mur Cerrig Newydd
YDCW cerdded amgyll

Parc yr Ynys and Llyn Coed y Parc

Mae trigolion yr ardal wedi hir fwynhau y gronfa â’r coed o amgylch Afon Galedffrwd â’r coed i’r dwyrain o Mynydd Llandegai. Yn ddiweddar mae trigolion Mynydd Llandegai â’r cyffiniau wedi sefydlu cwmni elusennol yn 2003 o’r enw Coetir Mynydd. Mae'r cwmni wedi derbyn perchnogaeth o coetir Parc yr Ynys a Llyn Coed y Parc oddi wrth Stâd Penrhyn yn Ebrill 2004. Mae Coetir Mynydd, ynghyd ag Ysgol Bodfeurig, y Comisiwn Coedwigaeth a melinau llifio lleoll yn trefnu Ysgol Coedwigaeth yng nghoedwig Parc y Bwlch.

Yn ystod 2005-6, canolbwyntiwyd ar y gwaith graddol o ail-adeiladu'r waliau cerrig sy'n ffinio'r coetir, a hynny drwy gyfrwng grant gan y Comisiwn Coedwigaeth drwy'r prosiect CydCoed. Cyflawnwyd y gwaith gan North Wales Stonework, a gellir dod o hyd i'w gwefan o'n tudalen Cysylltiadau.

Ar 3 Medi, 2006, 'roeddem yn falch iawn o dderbyn Gwobr Cymru Wledig gan YDCW, sef Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig, am ein gwaith yn rheoli'r coetiroedd hyn. Ar y diwrnod hwnnw, cerddodd nifer o aelodau YDCW drwy'r coetiroedd gan ymuno â ni wedyn am de yn Y Neuadd Goffa, Mynydd Llandygái. Ceir mwy o fanylion ynghyd â lluniau ar y dudalen Newyddion ac yn Adroddiad Blynyddol 2006, y gellir cysylltu iddynt o'r dudalen Dogfennau.

AMCANION

Hyrwyddo gwella, rheoli a diogelu coetir a thir comin ym Mhlwyf Llandegai, Gwynedd

Cadw, er budd y cyhoedd, yr ardal a adwaenir fel Parc yr Ynys, Mynydd Llandegai

Hyrwyddo addysgu'r cyhoedd ynghylch coetir, bywyd gwyllt, yr amgylchedd, cefn gwlad, a hanes a threftadaeth yr ardal


Mae'r Memoranda ac Articles y cwmni i'w cael ar y tudalen Dogfennau
Mae diolchiadau am ariannu ar y tudalen Ariannau

Ebost: CoetirMynydd

 

English
Cartref
Newyddion
Dogfennau
Argae
Coetir
Bioamrywiaeth
Hanes
Mapiau
Cyfarwyddwyr
Ariannu
Cysylltiadau