Bioamrywiaeth

Mae’r ardal gyfan yn ymestyn dros bron i 5 hectar (neu 22 acer), o’r rhan uchaf, mwy agored, ar uchder o 800′ i lawr i’r ceunant cysgodol islaw’r argae, ar uchder o tua 500′.

Mae’r rhan uchaf (Adran 1) yn cychwyn yn union o dan hen fferm Pen y Llyn ac yn ymestyn i lawr yr afon ac yn gorffen o gwmpas yr un lefel ag Ynys Isaf, lle mae’r ffordd gyhoeddus yn gorffen a’r llwybr troed yn cychwyn. Y coed mwyaf amlwg yn y rhan hwn yw’r Ffawydd Albanaidd. Mae nifer ohonynt wedi’u taro gan fellt ac mae’n ymddangos eu bod yn dod i ddiwedd eu hoes. Mae merlod wedi bod yn pori ychydig ar y tir hwn ers peth amser, gan greu ardal agored, laswelltog, gyda choed yma ac acw a lleiniau prysgog o eithin a mieri. Mae’r tirlun ychydig yn rhyfedd : twmpathau glaswelltog rhwng nentydd bychain, cerrig mawrion yn sefyll ar eu pennau eu hunain (yn tarddu o rewlifoedd mae’n debyg) a llethrau mwy sych gydag eithin yn tyfu ar bridd tenau dros lechi. Mae wedi bod yn draddodiad i losgi’r eithin er mwyn cadw mannau agored ar gyfer pori. Heb ryw fath o reolaeth barhaus (naill ai dorri neu losgi ysgafn) bydd y tir yma’n troi’n ôl yn brysg yn fuan, ac yn goed (yn y pen draw). Mae’n ymddangos bod llai o bori wedi digwydd ym mhen isaf y llethr glaswelltog hwn ac mae yma fwy o goed, sef Bedw yn bennaf, gyda digonedd o aildyfiant (Adran 2). Mae’r dyffryn yn culhau ac mae’r ochrau gwlyb yn serth ac wedi’u gorchuddio gan redyn mewn rhannau. Mae yna goed llawer mwy o ran maint yn y rhan nesaf (Adran 3), a llawer ohonynt wedi’u plannu gan ystad y Penrhyn. Mae llawer o’r rhywogaethau yn rhai na fyddech yn disgwyl eu gweld mewn coedlan ‘naturiol’ yma – maent yn cynnwys Castanwydd Melys, Cerddinen Wyllt, Pinwydden Corsica ynghyd â nifer o Ffawydd Albanaidd. Mae prif ran y goedlan (Adran 4) yn ymestyn o’r bont dros y Galedffrwd ger Yr Ocar, i lawr y dyffryn yn agos at ben yr argae. Efallai bod rhannau o hwn yn ‘goetir hynafol’ ond plannwyd rhywfaint o goed gan yr ystad hefyd, fel yn rhan 3. Mae mwyafrif y coed yn Dderw, Criafol a Bedw ond mae yna ddigonedd o Gelyn a hefyd Ffawydd a Sycamorwydd. Yr hyn sydd fwyaf trawiadol am y rhan yma o’r goedlan yw patrwm oedran y coed. Mae gan y mwyafrif o’r coed aeddfed ganghennau wedi’u difrodi a’u torri gyda llawer o bren marw yn sefyll, ond oddi tanynt mae llawer o goed ifanc iach yn aros i dyfu trwodd. Mae’r rhan olaf (Adran 5) yn cynnwys yr argae a’r gronfa dd_r a’r tir o’u cwmpas. Gan fod y gronfa dd_r wedi bod yn llenwi â silt, mae’r llystyfiant wedi bod yn ymestyn i’r rhannau mwy bas ar yr ymylon, gan greu ‘coetir gwlyb’ o Wern a Helyg. O dan yr argae mae yna geunant gwlyb iawn a choed ar ei hyd yn ymestyn at weddillion yr ail argae.

Cliciwch yma am ragor o wybodaeth gan gynnwys tablau yn rhestru planhigion a bywyd gwyllt.
Ydych chi wedi gweld rhywbeth diddorol? ‘Rydym bob amser yn falch o dderbyn cofnodion o rywogaethau a welwyd yn yr ardal ac yn awyddus i annog arolygon pellach. Cysylltwch â Choetirmynydd.

  • Documents / Dogfennau


  • Parent page: Bioamrywiaeth